Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mai 2024
Amser:
09.18 -
11.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13914
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Adam Price AS Peter Fox AS |
Tystion: |
David Richards, Llywodraeth Cymru Dr Rachel Garside-Jones, Llywodraeth Cymru Matthew Hall, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) Lucien Wise (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Natasha Asghar AS a Rhianon Passmore AS.
1.3 Roedd Peter Fox AS yn dirprwyo ar ran Natasha Asghar AS yn y cyfarfod.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru a chyfle i ofyn cwestiynau am Lawlyfr y Cabinet a thrafodaethau mynediad.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn friffio a chytunodd i aros am yr wybodaeth ychwanegol yr oedd y swyddogion wedi cytuno i’w rhoi yn ystod y sesiwn, cyn penderfynu ar y camau pellach yr hoffai eu cymryd i ymdrin â’r mater hwn.